Skip to main content

Mae hwn yn wasanaeth newydd. Helpwch ni i'w wella drwy roi'ch adborth (yn agor mewn tab newydd).

Hysbysiad preifatrwydd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut rydyn ni'n casglu ac yn rheoli'ch data personol pan fyddwch yn defnyddio'r gwasanaeth Rhoi Gwybod am Dderbyn Gwastraff.

Os ydych chi'n darparu gwybodaeth inni am bobl eraill, rhaid ichi roi gwybod iddynt bod gwybodaeth amdanynt yn cael ei rhannu â ni a'u cyfeirio at yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Pwy sy'n casglu'ch data personol

Mae'r 4 rheoleiddiwr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig yn gyd reolyddion ar gyfer y data personol rydyn ni'n ei brosesu yn y System Tracio Gwastraff yn Ddigidol, a hynny o dan Reoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018).

Mae rheoleiddwyr amgylcheddol y Deyrnas Unedig yn rheolyddion ar wahân sy'n defnyddio data personol at y dibenion canlynol:

  • monitro a gwella cydymffurfedd â deddfwriaeth amgylcheddol
  • gorfodi'r gyfraith

Y rheoleiddwyr amgylcheddol yw:

  • Asiantaeth yr Amgylchedd
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA)
  • Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban

Prosesydd

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a'u cyflenwyr masnachol yw prosesydd y data personol a gesglir drwy'r System Tracio Gwastraff yn Ddigidol.

Pa ddata personol ydym ni'n ei brosesu

Efallai y byddwn ni'n casglu:

  • eich enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt
  • rhifau cofrestru cerbydau

Ar gyfer unigolion, unig fasnachwyr a phartneriaethau anghorfforedig, gall data personol gynnwys gwybodaeth am symudiadau gwastraff sy'n cynnwys unigolion.

Yn Lloegr, ni fyddwn yn casglu data personol am unigolion sy'n dod â gwastraff cartrefi i safle a ddarperir gan awdurdod gwaredu gwastraff er mwyn i breswylwyr lleol waredu gwastraff cartrefi am ddim.

Yng Nghymru, ni fyddwn yn casglu data personol preswylwyr awdurdod sy'n dod â gwastraff cartrefi i safle a ddarperir gan awdurdod gwaredu gwastraff na phan fydd unrhyw berson arall yn dod â gwastraff wedi'i reoli i'r safle hwnnw.

Yng Ngogledd Iwerddon, ni fyddwn yn casglu data personol ar gyfer gwaredu gwastraff wedi'i reoli ar safle awdurdodedig a ddarperir gan Gyngor Dosbarth.

Yn yr Alban, ni fyddwn yn casglu data personol at ddibenion tracio gwastraff yn ddigidol pan fydd gwastraff yn cael ei gludo i safle a ddarperir gan awdurdod gwaredu gwastraff i waredu gwastraff cyn ei drosglwyddo i le wedi'i ddarparu i waredu neu ailgylchu'r gwastraff.

Mae'r data personol yn rhan o'r gofynion gwybodaeth rheoleiddiol er mwyn inni allu deall pwy sydd wedi cynhyrchu, symud, trin neu waredu'r gwastraff.

Sut rydyn ni'n cael eich data personol

Rydyn ni'n cael eich data personol pan gaiff ei gyflwyno i'r system Tracio Gwastraff yn Ddigidol:

  • yn uniongyrchol gennych chi
  • gan dderbynyddion gwastraff cofrestredig

Pam fyddwn efallai'n prosesu'ch data personol

Ein pwrpas ar gyfer prosesu'ch data personol yw cefnogi'r paratoadau ar gyfer sefydlu system newydd ar gyfer tracio gwastraff yn ddigidol. Bydd y system hon yn galluogi sefydliadau i roi gwybod am symudiadau gwastraff yn ddigidol.

Y sail gyfreithlon rydyn ni'n dibynnu arni i brosesu'ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU, sy'n rhoi caniatâd inni brosesu data personol pan fydd hyn yn angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu sydd wedi'i nodi yn y gyfraith.

Mae'r gwaith prosesu yn seiliedig ar y canlynol:

  • Rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Cymru) 2026
  • Rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol (Yr Alban) 2026
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 fel y'i diwygiwyd gan adran 58 Deddf yr Amgylchedd 2021
  • Gorchymyn Tir Gwastraff a Halogedig (Gogledd Iwerddon) 1997, fel y'i diwygiwyd gan adran 59 Deddf yr Amgylchedd 2021
  • Deddf Dehongli 1978 sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'r rheoleiddwyr i arfer pwerau rhagddyfalus mewn perthynas â deddfwriaeth nad yw eto mewn grym
  • Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn datblygu ac yn profi gwasanaeth digidol gwirfoddol wrth arfer pwerau gweithredol cyfraith gyffredin

Mae er budd y cyhoedd i Reoleiddwyr Amgylcheddol y Deyrnas Unedig gefnogi'r gwaith o baratoi'r system newydd hon i helpu busnesau gyda'r newidiadau sydd ar y gweill i ddeddfwriaeth, a fydd yn cynnwys rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, a helpu i hwyluso'r broses o drosglwyddo'n ddidrafferth i system rhoi gwybod am symudiadau adroddiadau gwastraff digidol.

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch data personol

Yn ystod cyfnod gwirfoddol y fersiwn beta gyhoeddus o'r system, byddwn ni'n defnyddio'r data rydyn ni'n ei gasglu yn y system Tracio Gwastraff yn Ddigidol i wneud y canlynol:

  • darparu gwelededd a gwybodaeth am ba ddata sy'n dod i law, a sut y gallem ei defnyddio
  • rhoi adborth i Defra a'u cyflenwyr masnachol, ar welliannau posibl i'r system,ansawdd y data, pa mor ddefnyddiol ydyw at ddibenion rheoleiddio ac unrhyw welliannau yr hoffem eu gweld

Gall rheoleiddwyr amgylcheddol y Deyrnas Unedig ddefnyddio'r wybodaeth fel rheolyddion ar wahân i wneud y canlynol:

  • monitro a gwella cydymffurfedd â deddfwriaeth amgylcheddol
  • at ddibenion gorfodi'r gyfraith

Ni fyddwn ar unrhyw adeg yn defnyddio gwybodaeth a gasglwn yn ystod cyfnod gwirfoddol y fersiwn beta gyhoeddus at ddibenion rheoleiddio a gorfodi rheoliadau Tracio Gwastraff yn Ddigidol.

Os oes gennych drwydded amgylcheddol gyda rheoleiddiwr amgylcheddol y Deyrnas Unedig, byddant yn rhoi hysbysiad preifatrwydd ichi yn egluro sut byddant yn defnyddio data personol. Gall hyn gynnwys data personol sydd wedi'i gadw yn y system Tracio Gwastraff yn Ddigidol.

Efallai y byddwn ni'n defnyddio gwybodaeth sydd wedi'i uwchlwytho i'r system i gysylltu â chi am yr wybodaeth a ddarperir.

Gyda phwy ydyn ni'n rhannu'ch data personol

Efallai y byddwn ni'n rhannu'ch data personol â Defra a'u cyflenwyr masnachol fel Proseswyr ac Is-Broseswyr os yw hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r canlynol:

  • nodi gwelliannau posibl i'r system a'u rhoi ar waith
  • asesu ansawdd y data, a'i ddefnyddioldeb at ddibenion polisi rheoleiddio a rheoleiddio
  • rhoi gwybod i Defra am unrhyw welliannau yr hoffem eu gweld i'r system
  • profi a datblygu'r system
  • rhoi gwybod am allbynnau o'r system

Efallai y byddwn ni'n rhannu'ch enw, eich cyfeiriad a gwybodaeth am symud gwastraff gyda Defra a'u cyflenwyr masnachol fel rheolyddion ar wahân os bydd angen, er mwyn gwneud y canlynol:

  • galluogi Defra i asesu ansawdd y data, a pha mor ddefnyddiol ydyw at eu dibenion rheoleiddio a pholisi
  • galluogi Defra i brofi a datblygu'r system a'i hallbynnau ymhellach at eu dibenion rheoleiddio a pholisi

Rydyn ni'n rhoi eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn symudol i GOV.UK Notify er mwyn iddyn nhw allu anfon negeseuon e-bost, llythyrau a negeseuon testun atoch chi ar ein rhan.

Ni fyddwn yn rhannu nac yn datgelu'ch data personol i unrhyw barti arall heb eich caniatâd oni bai fod y gyfraith yn mynnu neu'n caniatáu inni wneud hynny.

Nid ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i wneud penderfyniad awtomataidd nac ar gyfer proffilio awtomataidd.

Am ba mor hir rydyn ni'n cadw'ch data personol?

Byddwn ni'n cadw'ch data personol yn y system Tracio Gwastraff yn Ddigidol am 7 mlynedd o'r adeg y caiff ei uwchlwytho oni bai bod yr wybodaeth:

  • yn cael ei ddefnyddio gan reoleiddiwr amgylcheddol y Deyrnas Unedig fel rheolydd ar wahân
  • yn ymwneud â symudiadau gwastraff sy'n dod i ben yng Ngogledd Iwerddon

Os bydd gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan reoleiddiwr amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig fel rheolydd ar wahân, bydd y rheoleiddiwr yn egluro yn ei hysbysiad preifatrwydd perthnasol am ba hyd y bydd yn cadw'ch data personol.

Os yw'r wybodaeth yn gysylltiedig â symudiadau gwastraff sy'n dod i ben yng Ngogledd Iwerddon, byddwn ni'n ei chadw am 15 mlynedd o'r adeg y caiff ei huwchlwytho.

Rydyn ni'n defnyddio system Hunaniaeth Cwsmer Defra ar gyfer cofrestru a rheoli cyfrifon. Mae hysbysiad preifatrwydd Hunaniaeth Cwsmer Defra yn egluro sut byddant yn defnyddio'ch data personol pan fyddwch yn cofrestru.

Os byddwch chi'n cyflwyno cofnodion drwy ddefnyddio'r opsiwn cyflwyno amgen (taenlen), byddwn ni'n cadw copi o'r daenlen am 6 mis.

Ble mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu a'i storio

Dim ond i wlad arall yr ystyrir ei bod yn unol â'r gyfraith diogelu data y byddwn ni'n trosglwyddo'ch data personol.

Manylion Cyswllt

Mae gan bob rheoleiddiwr siarter gwybodaeth bersonol neu hysbysiad preifatrwydd ar wahân sy'n egluro'r canlynol:

  • sut mae cysylltu â'n Swyddogion Diogelu Data Prifysgol
  • beth rydyn ni'n ei wneud â'ch gwybodaeth bersonol (data personol) yn gyffredinol
  • eich hawliau, a sut i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
  • sut rydyn ni'n prosesu data personol at ddibenion gorfodi'r gyfraith

Asiantaeth yr Amgylchedd

Siarter gwybodaeth bersonol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru / Hysbysiad Preifatrwydd

Yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

DAERA Datganiad Preifatrwydd | Yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban

Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban - Hysbysiad Preifatrwydd

Newidiadau i'r hysbysiad hwn

Mae'n bosibl y byddwn ni'n newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Os felly, bydd y dyddiad 'diweddariad diwethaf' ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a'ch data ar unwaith.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, byddwn ni'n cymryd camau rhesymol i roi gwybod ichi.